Prifysgol De Cymru

1.        Ar 11 Ebrill 2013 ‘unodd’ Prifysgol Morgannwg â Phrifysgol Cymru, Casnewydd, i greu Prifysgol De Cymru. Gyda champysau yng Nghaerdydd, Pontypridd a Chasnewydd, mae'r Brifysgol yn enwog am ei phartneriaethau â chyflogwyr mawr ac mae’n cael effaith yn y gymuned drwy ddarparu addysg uwch sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth. Wedi ei gwreiddio yng nghymunedau de Cymru, mae'r brifysgol yn cael effaith nid yn unig ar y myfyrwyr unigol sy'n cael eu haddysgu ym mhob rhan o'r rhanbarth, ond hefyd ar y busnesau a’r sefydliadau lle mae ein graddedigion yn cael eu cyflogi.

2.        Mae gan yr Ysgol Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Cymdeithasol enw rhagorol yn Ne Cymru a thu hwnt. Mae'r cyrsiau hyfforddi athrawon yn paratoi athrawon medrus a hyderus ar gyfer y sector cynradd, uwchradd ac ôl-orfodol tra bod yr amrywiaeth eang o gyrsiau Meistr ym maes addysg yn darparu cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Ymateb i’r ymchwiliad i Strategaeth Iaith Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru

3.        Mae'r Brifysgol yn croesawu’r egwyddor o greu strategaeth hirdymor ar gyfer yr iaith Gymraeg ac yn cytuno bod creu gweithlu sydd â'r sgiliau priodol i addysgu a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn amcan allweddol.

-     gwella cynllunio’r gweithlu a chefnogaeth i ymarferwyr ar gyfer pob cyfnod addysg; a

-     sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu fel pwnc.

4.        Byddem yn awgrymu bod angen cysondeb ledled Cymru wrth adolygu sgiliau a galluoedd iaith Gymraeg. Er bod hunanasesu ac adolygiadau cyfoedion yn cael eu cynnal yn rheolaidd, mae angen cynnal y sgiliau a nodi anghenion hyfforddiant fel bo'n briodol. Mae alinio Tystysgrif Iaith a Thystysgrif Cymhwysedd Iaith ar gyfer Athrawon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ochr yn ochr â gwaith y Ganolfan Iaith Gymraeg ar gyfer Dysgu Cymraeg o fewn y gweithle yn bwysig er mwyn sicrhau cysondeb a dilyniant ar draws pob cyfnod o addysg.

5.        Mae angen cydweithio cryfach rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus yn ogystal. Mae cyflogwyr yn chwilio am amrywiaeth ehangach o sgiliau na'r rhai y gellir eu haddysgu o fewn y dosbarth. Mae'r Brifysgol yn hanesyddol wedi nodi’r angen am brofiad yn y gweithle i gael y sgiliau a’r rhinweddau ychwanegol hyn, ac mae ganddi berthynas gref â nifer o ysgolion lleol yn ne-ddwyrain Cymru, sy'n elfen hanfodol o brofiad a datblygiad myfyrwyr yn y brifysgol. Fodd bynnag, os oes twf sylweddol am fod yn nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae sicrhau lleoliadau a phrofiad gwaith digonol ar gyfer pob myfyriwr yn hanfodol er mwyn datblygu gweithlu profiadol ac effeithlon. Gallai cynyddu nifer yr ysgolion sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda'r prifysgolion fod yn ffordd effeithiol o ddatblygu gweithlu dwyieithog, a fyddai yn ei dro yn sicrhau bod digon o staff cyfrwng Cymraeg yn cael hyfforddiant a phrofiad go iawn yn y maes.

6.        Er mwyn gwneud cynnydd sylweddol, fodd bynnag, mae angen buddsoddi'n sylweddol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae galw a'r potensial i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol.

7.        Gallai gweledigaeth sy'n cwmpasu pob cyfnod o addysg sicrhau parhad, cysondeb a sicrhau continwwm iaith a allai fynd i'r afael â'r gostyngiad sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng pob cyfnod addysg. Mae deall y cyd-destun a'r rhesymau y tu ôl i’r dirywiad hwn hefyd yn bwysig i fynd i'r afael yn llawn â'r materion. Byddai tynnu ar arfer da ar draws y sector a defnyddio sgiliau ac arbenigedd yn hanfodol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau a strategaeth effeithiol ar gyfer y dyfodol.

8.        Mae Prifysgol De Cymru yn barod i gyfrannu at y drafodaeth barhaus ac ar hyn o bryd yn adolygu sut gallwn ymgorffori newidiadau yn ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg i sicrhau bod ein myfyrwyr cyfrwng Cymraeg - y rhai rhugl a’r rhai nad ydynt yn rhugl - yn cael pob cyfle i gynnal a datblygu eu sgiliau. Mae nifer uchel y siaradwyr Cymraeg yn y Brifysgol, ochr yn ochr â'r angen i ymateb i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn ne ddwyrain Cymru, yn yrrwr cryf ar gyfer datblygiadau strategol y brifysgol, a byddwn yn parhau i ymateb yn gadarnhaol i ddatblygiadau yn y maes yn y dyfodol er mwyn cyfrannu at weledigaeth a tharged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.